Amdanaf fi

S’mae! Mathew dwi,

A dwi wrth fy modd yn ffilmio pobl mewn cariad.

Dechreuodd y enter hon yn 2017 pan ofynnodd ffrind agos i mi osod camera i ffilmio seremoni ac areithiau ei phriodas: "Nothing fancy. Just set up a camera to the side so we can watch it back."

Dydw i ddim yn un i wingo rhag her ac roedd yn gyfle i roi’r anrheg priodas berffaith iddi.

Gyda fy nghamera a chwpl o declynnau eraill cychwynnais ddogfennu eu diwrnod arbennig.

Roedden nhw wrth eu boddau, ac mi roeddwn i wir wedi mwynhau gwneud y ffilm iddyn nhw, ac unwaith i’r ffilm cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, derbynnais llwyth o geisiadau gan hen gyfeillion a ffrindiau i ffilmio eu diwrnodau priodas nhw.

Erbyn hyn rydw i’n ffilmio hyd at 40 o briodasau'r flwyddyn a chefais fy enw ar restr fer Fideograffydd Priodas Cymru 2019/2020. Rydw i’n ymgeisio i ddarparu ffilmiau priodas naturiol, sinematig o ansawdd ar gyfer pob un briodferch a gwas priodas sy’n fy newis i adrodd hanes eu diwrnod priodas.

Fy hoff sesiynau yw ffilmiau priodas sy’n llawn egni ac yn mynd mewn chwinciad.

Rydw i’n ddigon ffodus i fod yn fideograffydd sy’n byw yng Ngogledd Cymru, ac wedi bod yn ffodus iawn i ffilmio mewn amrywiaeth o leoliadau, a hefyd yn ddigon hapus i deithio.

Cysylltwch os ydych chi eisiau dysgu rhagor amdanaf fi neu sut fedrwn ni weithio gyda’n gilydd.

Cysylltwch i wybod
rhagor, i gadw dyddiad
neu i holi
unrhyw gwestiynau

Cysylltwch â mi